Mae durtur yr efengyl fwyn,
Yn galw bro a bryn;
Doed torf aneirif
tu a'r wlad,
Gyd â'r awelon hyn.
Fe ddaeth y Jubil werthfawr lawn,
Ar ol och'neidio'n hir;
Ac mi ge's weled hyfryd ran
O'r baradwysaidd dir.
Fe wnaeth ei babell yn ein plith,
A'i bresenoldeb sy
Yn troi pob cystudd chwerw loes,
Yn hyfryd hedd i ni.
Darfydded dydd, darfydded nos
Fel mynud bach o'r awr,
Tra b'wyf yn caru a rhoi mhwys
Ar fynwes f'Arglwydd mawr.
Dymunwn yma dreulio'm hoes
O fore hyd brydnawn,
Lle cawn ni wylo cariad pur
Yn ddagrau melus iawn.
William Williams 1717-91
Tôn [MC 8686]: Suffolk (<1829) gwelir: Darfydded dydd darfydded nôs Darfyddwn son am bleser mwy F'Anwylyd sydd fel lili hardd Fe ddaeth y Jubil werthfawr lawn Na foed fy mywyd bellach mwy Ni gawsom y Messia'n rhad Pan ddelo angeu yn ei rwysg |
The turtle-dove of the dear gospel is
Calling vale and hill;
Let the innumerable throng
come to the country,
With these breezes.
The very valuable Jubilee came,
After long groaning;
And I got to see a delightful portion
Of the paradaisiacal land.
He made his tent among us,
And his presence is
Turning every affliction of bitter anguish,
To delightful peace for us.
Let day vanish, let night vanish
Like a small minute of an hour,
While ever I am loving and leaning
On the bosom of my great Lord.
I wish here to spend my lifespan
From morning until afternoon,
Where we get to weep pure love
In very sweet tears.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|